MR 16

Ymchwiliad i recriwtio meddygol

Inquiry into medical recruitment

Ymateb gan: Awen Iorwerth

Response from: Awen Iorwerth

 

Ymgynghoriad recriwtio meddygol Tachwedd 2016

 

Awen Iorwerth

Llawfeddyg Trawma ac Orthopaedic, Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi LLawfeddygaeth Crai Cymru

Darlithydd Clinigol Coleg Cymraeg yn Ysgol Meddygol Prifysgol Caerdydd

 

1. Dewis Gyrfa

 

a. CYDWEITHIO

             i.   Ers tro, mae’r pwyslais wedi bod ar roi gwybodaeth ac annog disgyblion blwyddyn 11 ac ymlaen i ddewis meddygaeth a mae sawl asiantaeth a nifer o unigolion wedi bod yn gweithio yn annibynnol mewn ysgolion.

           ii.   Rhaid cyfuno ymdrechion y byrddau iechyd, prifysgolion, y Coleg Cymraeg, BMA, Colegau Brenhinol ayb.  Bydd hyn yn sicr yn arbed arian a rhoi cyfle i ddatblygu adnoddau defnyddiol.  Bydd hyn hefyd yn golygu nad ydi ysgolion yn cael eu llethu gan ormod o ddigwyddiadau sydd yn gwrthddweud eu gilydd.  Bydd y meddygon a’r asiantaethau yn siarad a’r un neges.  Bydd dim gofyn i’r un meddygon fynd i sawl digwyddiad gan achosi dadymafael y rhai sydd yn holl bwysig i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

          iii.   Rhaid cefnogi’r gwasanaeth gyrfaeodd mewn ysgolion – gan roi un pwynt cyswllt am wybodaeth, nid dim ond dibynnu ar rieni cymwynasgar neu ar feddygon lleol sydd wedi ymddeol.

 

b. YSGOLION CYNRADD

        i.        Rhaid cyflwyno meddygaeth fel gyrfa bosibl o oedran ysgol gynradd.

      ii.        Mewn ardaloedd lle nad oes ysbyty na meddygon yn byw yn lleol yn enwedig, mae’n hollbwysig cyflwyno delfrydau ymddwyn ar bwrpas i’r oedran ifanc yma gan na ddown ar draws neb fel arall.

     iii.        Gellid gwneud hyn drwy gysylltu gyda’r prifysgolion fel bod myfyrwyr sydd ar leoliadau ar hyd a lled Cymru yn ymweld yn rheolaidd fel rhan o’u cwrs.

 

c. BLWYDDYN 9 YMLAEN

        i.        Mae’n bwysig rhoi gwybodaeth i ddisgyblion blwyddyn 9 pa bynciau i ddewis ar gyfer eu TGAU a beth yw’r graddau gofynnol.  Mae wedi hynny yn rhy hwyr.

      ii.        Unwaith eto, mae’n holl bwysig bod y disgyblion yn cael delfrydau ymddwyn a phwynt cyswllt.  Gallwn ddefnyddio myfyrwyr ar leoliadau neu feddygon ifanc mewn system reolaidd, drefnus i gysylltu a PHOB ysgol.

     iii.        Mae Cemeg yn bwnc sydd yn cael ei ddysgu’n wael yng Nghymru ac mae’n ofynnol i wneud meddygaeth.  Felly, mae angen edrych ar safon y gwaith yma a sut ellid ei wella yng Nghymru – neu bod gradd yn is yn y pwnc yma yn dderbyniol gan ddisgyblion Cymru.

     iv.        Rhaid derbyn bod gan y Gymraeg a Saesneg statws cyfartal a bod TGAU yn y Gymraeg gyfwerth a Saesneg.

       v.        Rhaid cael consensws ar ba fath o brofiad gwaith sydd yn dderbyniol yn yr oedran yma – dydy profiad meddygol uniongyrchol ddim yn bosibl mewn sawl ardal o Gymru.

     vi.        Rhaid comisiynnu ymchwil ffurfiol i’r rhesymau pam nad ydi disgyblion yr oedran yma yng Nghymru yn dewis meddygaeth fel gyrfa pan mae yna sefydlogrwydd gwaith am oes yn ardal eu mebyd a ledlyd y byd wrth ddewis hyn.

Rhaid cael consensws ar ba fath o brofiad gwaith sydd yn dderbyniol yn yr oedran yma – dydy profiad meddygol uniongyrchol ddim yn bosibl mewn sawl ardal o Gymru.

     vi.        Rhaid comisiynnu ymchwil ffurfiol i’r rhesymau pam nad ydi disgyblion yr oedran yma yng Nghymru yn dewis meddygaeth fel gyrfa pan mae yna sefydlogrwydd gwaith am oes yn ardal eu mebyd a ledlyd y byd wrth ddewis hyn.

    vii.        Rhaid i ysgolion gefnogi dyheadau eu disgyblion a’u hannog.  Mae’r gefnogaeth ddilychwin yma yn hanfodol.

 

ch. CHWECHED DOSBARTH

  i.        Nid egluro beth ydi meddygaeth ddylai fod y ffocws erbyn yr oedran yma ond hyfforddiant i gael eu derbyn mewn i ysgol meddygol.

ii.        Mae Cemeg yn bwnc sydd yn cael ei ddysgu’n wael yng Nghymru ac mae’n ofynnol i wneud meddygaeth.  Felly mae angen edrych ar safon y gwaith yma a sut ellid ei wella yng Nghymru – neu bod gradd yn is yn y pwnc yma yn dderbyniol gan ddisgyblion Cymru.

iii.        Dylai’r Bagloriaeth Gymraeg gael ei derbyn yn gyfartal a lefel A.

iv.        Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth gwych ar gael gan adran Olraddedig Ysbyty Gwynedd lle mae disgyblion lleol yn cael ymarfer cyflwyno, cyfweliad, profiad gwaith.  Dyliai’r patrwm yma gael ei ddilyn ar draws Cymru.

 v.        Rhaid comisiynu ymchwil ffurfiol i weld i ble mae’r disbyglion fyddai flynyddoedd yn ol yng Nghymru, neu yn gyfredol yn Lloegr, yn astudio meddygaeth yn mynd?  Ydyn nhw’n aros yng Nghymru I astudio rhywbeth arall? Neu ydyn nhw yn gadael Cymru’n llwyr?  Ydyn nhw’n dod yn ol byth?

 

 

Hyfforddiant

a.  YSGOL MEDDYGOL

     i.        Mae angen i bob Ysgol Meddygol yng Nghymru dderbyn eu bod yn rhan o gynllun hirdymor y gweithlu gwasanaeth iechyd YNG NGHYMRU.

   ii.        Rhaid ystyried cwotau o fyfyrwyr o Gymru, yn union fel y mae ysgolion meddygol yr Alban yn ei wneud.

  iii.        Os na, rhaid ystyried, gostwng y graddau derbyniol i fyfyrwyr o Gymru yn enwedig mewn Cemeg.

  iv.        Rhaid ystyried rhoi pwynt ychwanegol am TGAU Cymraeg (iaith gyntaf neu ddysgwyr) i fanteisio disgyblion Cymru. Gall hyn gael y fantais o ddisgyblion o lefydd eraill ym Mhrydain yn cymryd TGAU Cymraeg er mwyn cael pwynt ychwanegol.

    v.        Rhaid ystyried rhoi pwynt ychwanegol am Fagloriaeth Cymreig.  Gall hyn gael y fantais o roi statws uwch I’r cymwyster yma.

  vi.        Rhaid i’r ysgolion meddygol sylweddoli mai dim ond dwy ysgol feddygol ym Mhrydain sydd yn cynnig addysg drwy gyfrwng y Gymraeg felly mae’n hollbwysig bod y rhai sydd yn cael y gofynion yn cael cynnig lle os ydynt yn dymuno astudio’n Gymraeg.  Fel arall, maent o dan anfantais.

 vii.        Rhaid bod tim derbyniadau ysgolion meddygol yn cael hyfforddiant mewn ymybyddiaeth o’r Gymraeg.

viii.        Rhaid bod systemau derbyn yr ysgolion meddygol yn safonol. Does dim lle i’r system hen ffasiwn o dderbyn darpar fyfyrwyr ar fympwy un aelod o staff. Mae hyn yn rhoi lle i resymau hiliol neu ddiwyllianol gael eu defnyddio i wrthod llefydd i ddarpar fyfyrwyr gwych.

  ix.        Rhaid cynnig cyfweliadau yn Gymraeg.

   x.        Rhaid cael rhestr gynhwysfawr o feddygon ar draws Cymru sydd yn siarad Cymraeg y gellid cysylltu a nhw i helpu gyda’r broses o gyfweld arholi ac addysgu.

  xi.        Rhaid gwneud cwrs ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn orfodol i fyfyrwyr meddygol yng Nghymru.

xii.        Rhaid defnyddio’r gwasanaeth iechyd ar draws Cymru i hyfforddi’r meddygon ifanc.  Os ydynt wedi bod mewn ardal wledig tra’n hyfforddi, maent yn fwy tebygol o fynd yn ol yno i weithio.

b. OL-RADD

     i.        Rhaid i ddeoniaeth Cymru ei bod yn hyfforddi meddygon i Gymru a chael gwared o’r agwedd wrth-Gymreig. 

   ii.        Rhaid sylweddoli bod ein pobl ifanc yn dra-gwahanol i’r cenedlaethau o feddygon a fu.Dydyn nhw ddim yn fodlon symud o le i le yn ystod eu hyfforddiant.

  iii.        Maent yn dewis sefydlogrwydd lleoliad yn hytrach na arbenigedd bellach.  Gall y ffaith yma fod o ddefnydd i ni fel gwlad fel y gallwn gynnig hyfforddiant arbenigol mewn ardal gyfyng. Yr hiraf y maent mewn un ardal, y mwyaf tebygol y maent o aros yno yn hir-dymor.

  iv.        Mae meddygon sail (foundation doctors) yn cael cynnig llety am ddim mewn rhai mannau.  Mae hyn yn sicr yn ddeiniadol iawn i feddygon ifanc sydd yn gadael y brifsygol gyda dyledion enfawr.  Beth am ymestyn y cynnig hyn I’r blynyddoedd sail hefyd (core)?  Y tebyg ydi na fyddai pawb yn ei gymryd ond byddai’n sicr yn syniad I’r llefydd sydd yn ei chael yn anodd recriwtio.

    v.        Mae oriau anghymdeithasol y meddygon ifanc hefyd yn ei gwneud hi’n llai tebygol iddynt dderbyn swyddi neu lleoliad mewn cylchdroad ymhell o gymar felly beth am gynnig swyddi ‘dwbl’ i feddygon ifanc?

  vi.        Y mwyaf o gefnogaeth y caiff y meddygon ifanc yn gynnar yn eu gyrfa, y mwyaf tebygol ydynt o aros yn yr ardal honno.

 vii.        Felly beth am gynnig y cyrsiau hanfodol iddynt gymwyso yn ei arbenigedd ddewisol i gyd am ddim yng Nghymru?  Mae mil o bunnau i feddyg ifanc a dyledion yn ddrud iawn i dalu am gwrs neu arholiad gorfodol – ond hyn mae byrddau iechyd yn ei dalu i un meddyg locum am un shift yn aml.  Faint o arian sydd wedi ei wario ar locums ar draws Cymru yn ddiweddar allai fod wedi ei wario ar arholiadau a chyrsiau a llawer o ewyllys da?

viii.        Yn olaf, mae’n rhaid cael sefydlogrwydd a chynllun hirdymor i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae’n anodd recriwtio heb gynllun penodol o beth fydd I’w ddisgwyl yn y degawd nesaf ac os bydd swydd briodol at ddiwedd hyfforddiant.